Anghytuno'n gyfeillgar


"Dwi'n anghytuno'n gyfeillgar a Dyfrig Jones" meddai Simon Brooks wrth ddisgrifio ei lythyr yn rhifyn Mai o Barn, sydd newydd gyraedd y siopau. Ac mae'n iawn, i ryw raddau; mae ei lythyr yn un cyfeillgar. Ond dwi ddim yn siwr a ydym ni'n anghytuno rhyw lawer a'n gilydd, mewn gwirionedd.

Mae Simon yn tynnu sylw at un o'r dadleuon y gwnes i yn y rhifyn blaenorol o Barn ynglyn a gor-gyfyngu ar nifer y tai newydd sy'n cael eu hadeiladu yng Ngwynedd. Roeddwn i'n dadlau bod peidio a chodi digon o dai yng Ngwynedd yn debygol o arwain at gynydd ym mhrisiau'r tai sy'n bodoli eisoes, gan greu marchnad sydd yn fwy ffafriol i fewnfudwyr o ardaloedd cyfoethocach na phobl leol.

Mae 'na ddau bwynt penodol mae Simon yn eu gwneud sy'n haeddu ateb, dwi'n credu. Yn y lle cyntaf, mae Simon yn dweud "Hwyrach mai'r cwbl a wneir wrth godi llawer o dai mewn llecynnau deniadol yw chwyddo awydd yn Lloegr i symud i fyw i Gymru". Ac mae yn llygaid ei le. Petai'r Cynllud Datblygu Lleol (CDLl) yn codi tai mewn "llecynnau deniadol" byddai'n bur debyg o gael yr effaith yma. Dyna pam fod y CDLl yn edrych yn ofalus iawn ar lle yn union caiff y tai newydd eu lleoli. Bwriad y cynllun ydi ceisio codi tai mewn safleoedd lle mae angen sydd yn deillio o weithgaredd economaidd, nid lle mae mewnfudwyr yn deisyfu cael tai bach del i ymfudo iddynt.

Wrth gwrs, tydi hyn ddim yn fater syml. Petai'r CDLl yn canolbwyntio ar yr ardaloedd lle mae gweithgaredd economaidd ar ei anterth, mae perygl y byddai'r tai newydd i gyd o fewn cyraedd i Fangor a Chaernarfon, gan greu pwysau ar drigolion Gwynedd i fudo o rannau mwyaf gwledig y sir i'r trefi a phentrefi mawr - gan adael y stoc tai gweldig yn wag i fewnfudwyr. Dyma pam fod y CDLl yn ceisio taro cyd-bwysedd rhwng codi tai i ddiwallu angehenion gweithwyr mewn canolfanau trefol prysur, ac hefyd caniatau i bentrefi canolig a llai dyfu ychydig ar yr un pryd, er mwyn galluogi cenhedlaeth iau i aros yng nghefn gwlad. Ond yn sicr, fydd y CDLl ddim yn arwain at godi tai mewn ardaloedd sy'n debygol o droi'n fagned i fewnfudwyr - megis Abersoch neu Borth-y-Gest.

Yr ail bwynt mae Simon yn ei wneud ydi cymharu CDLl drafft Gwynedd a Mon gyda Cynllun Datblygu Unedol (CDU) Ceredigion nol yn nechrau'r 2000au, cynllun a fu'n destun brwydr wleidyddol chwyrn yn y sir honno ar y pryd. Ond fel mae Simon ei hun yn nodi, roedd CDU Ceredigion yn creu fframwaith a fyddai wedi gallu arwain at godi hyd at 6,500 o dai (dros 15 mlynedd) mewn sir sy'n gartref i oddeutu 80,000 o bobl. Petai CDLl Gwynedd a Mon yn cael ei fabwysiadu ar ei ffurf presenol, byddai'n golygu codi hyd at 4,500 o dai (eto o fewn 15 mlynedd) a hynny i wasanaethu sir a phoblogaeth o tua 120,000. Hynny yw, roedd CDU Ceredigion yn gofyn am godi tua 1/3 yn rhagor o dai na CDLl Gwynedd, a hynny mewn sir sydd tua 40% yn llai (o rai maint poblogaeth) na Gwynedd. Does 'na ddim cymhariaeth rhwng y ddau gynllun.

I gloi, mae Simon yn awgrymu y dylid mabwysiadu yr hyn mae'n ei alw yn "egwyddor ragocheliadol" (precautionary principle)". "Egwyddor Ragofalus" ydi'r cyfieithiad mae Awdurdod Cynllunio Gwynedd wedi ei fathu, ond yr un ydi'r ystyr. Tra bod rhaid cydnabod hawl perchenog tir i ddatblygu ei eiddo, dylid gwrthod unrhyw geisiadau sydd yn debygol o greu niwed - boed hynny yn niwed amgylcheddol, cymdeithasol neu ieithyddol. Gallwch ddarllen sut mae Gwynedd yn disgrifio'r egwyddor o fewn y CDU presenol yn y fan hyn

Mae'r egwyddor hon yn greiddiol i'r CDLl, ac yn mynd i yrru y cam nesaf yn y broses. Rwan ein bod wedi rhagamcanu twf poblogaeth, ac wedi dechrau adnabod lleoliadau posibl ar gyfer datblygu, y cam pwysig nesaf ydi edrych ar gynaliadwyedd y CDLl. Bydd hyn yn golygu cynnal asesiad ardrawiad iaith ar bob safle, er mwyn edrych a yw cynnwys llecyn arbennig o dir o fewn y CDLl yn debygol o arwain at ddirywiad ieithyddol yno. Yn y gorffenol, mae'r asesiadau hyn wedi bod yn cael eu gwneud gan y sawl sy'n awyddus i ddatblygu'r tir - ac felly maent yn dueddol o ffafrio eu diddordebau hwy. O dan y CDLl, am y tro cyntaf erioed bydd Gwynedd a Mon yn gwneud yr asesiadau hyn, yn hytrach na'r datblygwyr. Bydd hyn yn gyfle i ni ystyried o ddifrif beth yw effaith y CDLl ar yr iaith, a'i addasu o herwydd.

Dyma pam mod i'n grediniol nad oes rhyw lawer o anghytuno rhyngddo fi a Simon. Oedd, roedd CDU Ceredigion yn rhy fawr. Oes, mae angen gochel rhag codi tai a fydd yn denu mewnfudwyr. Ac oes, mae angen bwrw 'mlaen gyda'r Egwyddor Ragofalus ym mlaen ein meddyliau. Mae'r CDLl draff y mae Gwynedd a Mon yn ei lunio ar hyn o bryd yn llawn gydnabod y tri ffaith yma, a dyna pam mod i'n falch o'i gefnogi.

Dyfrig Jones
Mae gen i nifer o swyddi a swyddogaethau, ond does nelo 'run ohonyn nhw ddim byd a'r blog yma.