Llongyfarchiadau i Corbyn


Yn ol y disgwyl, heddiw etholwyd Jeremy Corbyn yn arweinydd y Blaid Lafur heddiw, a hynny o fwyafrif sylweddol. Petawn i'n aelod o'r Blaid Lafur fe fyddwn i'n gorfoleddu heddiw, yn falch o weld y blaid yn cael ei harwain - am y tro cyntaf ers dyddiau Michael Foot - gan rhywun sydd yn driw i'w hegwyddorion sylfaenol.

Fel aelod o Blaid Cymru, ac fel cenedlaetholwyr Cymreig, mae gen i deimliadau llawer iawn mwy cymleth. O ddarllen sylwadau ar Twitter, mae rhai o fy nghyd-genedlaetholwyr yn gorfoleddu am yr un rhesymau a'r Toriaid; hynny yw, mae nhw'n credu y bydd Corbyn yn arwain Llafur dros y dibyn. Mae Simon Brooks yn dadlau y bydd Llafur yn colli gafael ar seddi megis Gogledd Caerdydd yn etholiadau 2016, gan ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd rhaid i Lafur glymbleidio gyda Plaid Cymru i aros mewn grym yn y Cynulliad. Gwobr gysur fyddai hon i mi. Hynny yw, petai Llafur o dan Corbyn yn gwneud yn wael, mae bron yn anorfod y daw rhywfaint o fantais i Blaid Cymru o hynny. Ond nid dyma y prif reswm pam fy mod yn eithriadol falch mai Corbyn ennillodd heddiw.

Fel Corbyn, fe es i allan y prynhawn 'ma i rali yn datgan fy nghefnogaeth i'r ffoaduriaid sydd yn ceisio lloches ym Mhrydain. Fel Corbyn, dwi'n credu yn gryf bod angen gwneud rhagor i helpu'r tlotaf yn ein cymdeithas, yn hytrach na cheisio gwarchod buddianau'r cyfoethog. Fel Corbyn dwi'n credu bod angen i'r llywodraeth ymyrryd llawer iawn mwy yn y farchnad dai, trafnidaeth ac ynni, fel bod pobl gyffredin heddiw yn cael yr un chwarae teg a gafodd eu rhieni. Petai Corbyn yn cael ei ethol yn Brif Weinidog, byddai gweithredu ei bolisiau blaengar o fudd i bobl Bethesda yn union yr un fath a phobl Bermondsey. Ac mae fy nghenedlaetholdeb i wedi ei wreiddio yn yr awydd i warchod buddianau pobl Cymru, llawn gymaint ac unrhyw ystyriaethau astrus ynglyn a natur y genedl. Am y rheswm yma, dwi'n falch fod Corbyn wedi ei ethol, ac yn gobeithio y bydd yn cael ei ethol yn Brif Weinidog yn 2020 (mewn llywodraeth glymblaid gyda Plaid Cymru, yr SNP a'r Gwyrddion, wrth gwrs).

Ond hyd yn oed os ydw i'n rhoi'r ystyriaethau yma o'r neilltu, dwi'n credu bod ethol Jeremy Corbyn yn newyddion da i Blaid Cymru, a hynny am ddau reswm. Mae'r cyntaf yn reswm tactegol; rhwng 1997 a 2010 Corbyn oedd yr Aelod Seneddol mwyaf anheyrngar yn San Steffan. Pleidleisiodd yn erbyn y chwip Llafur 428 o weithiau, ond yn fwy arwyddocaol golygai hyn ei fod yn pleidleisio yn aml iawn gyda Plaid Cymru. Roedd hi'n ddiddorol gweld Delyth Jewell, cyn-ymchwilydd Plaid Cymru yn San Steffan yn trydar y bore 'ma "A truly principled politician who I know will work with other progressive parties (as he always has)". Beth bynnag eich barn am wleidyddiaeth Corbyn, a'i allu i gael ei ethol, y gwir amdani yw fod ganddo well adnabyddiaeth o Blaid Cymru na'r mwyafrif llethol o'r Blaid Lafur Seneddol.

Ystyriwch hefyd beth yw agwedd Corbyn tuag at ddatganoli ac annibynniaeth. Digon chwithig oedd ei ddatganiad ei fod yn "Socialist, not an Unionist" - fe wyddom ni yng Nghymru fod y ddau beth yma yn aml yn mynd law-yn-llaw. Serch hynny, mae wedi gwneud yn glir nad yw'n credu bod lle iddo - fel AS o Loegr - ymyrryd yn y drafodaeth ynglyn a dyfodol yr Alban. Mae yn adnabyddus fel un sydd wedi cefnogi Sinn Fein yn y gorffennol, ac mae wedi datgan yn glir y byddai'n berffaith fodlon cyd-weithio gyda'r SNP i sicrhau pasio polisiau blaengar. Cawn weld sut y mae ei berthynas gyda'r pleidiau llai yn datblygu rwan ei fod yn arweinydd, ond mae popeth yn awgrymu fod gan Blaid Cymru gyfaill yn Corbyn. Drwy feithrin y gyfeillgarwch honno mae posib y cawn gymorth pwysig wrth fwrw ymlaen a'r cam nesaf o ddatganoli.

Ond mae 'na reswm arall, mwy sylfaenol, dros fod yn falch o weld Corbyn yn ben ar y Blaid Lafur. Ers ethol Tony Blair yn arweinydd Llafur nol yn 1994, mae 'na dueddiad wedi bod i Blaid Cymru ddiogi yn ddeallusol. Rydym ni wedi canolbwyntio yn ormodol ar geisio denu pleidleisiau'r hen Lafurwyr a oedd wedi dadrithio gyda Blair, heb orfod cynnig dim byd newydd iddyn nhw. Yn rhy aml o lawer, y pitch i'r etholwyr oedd "Pleidleisiwch i Blaid Cymru, 'da ni fatha Hen Lafur, ond efo rhyw fymrun o Gymraeg". Ac mae hwnw wedi bod yn pitch digon llwyddianus ar adegau, ac yn un dwi wedi bod yn euog o'i ddefnyddio ar adegau. Mewn pentref fel Bethesda, gyda thraddodiad Llafur cryf, mae'n hawdd iawn ar adegau sefyll ar y stepan drws a cheisio enill pleidlais drwy bardduo'r "Red Tories", heb orfod crybwyll y ffaith fy mod yn sefyll dros blaid sydd yn greiddiol yn bodoli er mwyn ceisio creu cenedl Gymreig o'r newydd.

Bydd ethol Corbyn yn rhoi diwedd ar hyn. Allwn ni ddim dibynnu ar y lein am y "Red Tories" bellach. Fe allwn ni barhau i drafod tlodi, trafnidiaeth, y banciau, a rhyfeloedd, ond o hyn ymlaen pan fyddwn ni'n son am gyfiawnder cymdeithasol, bydd rhaid i ni wneud hynny mewn cyd-destun Cymreig. Bydd gofyn i ni symud oddi wrth y son am gymdeithas decach i son am greu gwladwriaeth decach. A da o beth yw hynny.

Dyfrig Jones
Mae gen i nifer o swyddi a swyddogaethau, ond does nelo 'run ohonyn nhw ddim byd a'r blog yma.