Llythyr at aelodau Cyngor Gwynedd


Dyma gopi o ebost dwi wedi ei yrru at aelodau o grŵp Plaid Cymru, Cyngor Gwynedd. Gobeithio bydd modd iddyn nhw ei ddarllen cyn y cyfarfod tyngedfenol ddydd Gwener:

Annwyl gyfeillion,

Dwi'n ymwybodol eich bod wedi derbyn llawer iawn o ohebiaeth yn ddiweddar, parthed y Cynllun Datblygu Lleol - a tydw i ddim am ychwanegu yn ddi-angen at y gwaith darllen. Ond fel un a fu'n aelod o bwyllgorau cynllunio Gwynedd rhwng 2008 a 2017, ac a fu hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Polisi Cynllunio am gyfnod, carwn wneud un neu ddau o bwyntiau.

Yn gyntaf, gwn bod y CDLl yn ddogfen amherffaith; mae'n ffrwyth cyfaddawd rhwng ein dyheuadau ni fel plaid, a chyfyngiadau polisi cenedlaethol. Nid dyma'r cynllun datblygu y byddem ni wedi ei ysgrifennu, o gael rhwydd hynt i wneud hynny. Ond rydym ni'n byw mewn byd amherffaith, ac mae'r cyfaddawd yma yn gyfaddawd teg. Mae'n gwella ar yr hen gynllun datblygu unedol, ac yn cynnig arfau defnyddiol i'r aelodau hynny sy'n eistedd at y Pwyllgor Cynllunio, wrth ymdrin a cheisiadau unigol.

Mae sawl un wedi galw am beidio a chymeradwyo y CDLl yn y cyfarfod heddiw. Byddai gwneud hynny yn weithred cwbl ddinistriol, negyddol, a fyddai'n cael effaith niweidiol ar yr iaith Gymraeg. O beidio cymeradwyo'r CDLl, fe fyddai sawl peth yn digwydd.

Yn gyntaf, heb y CDLl, nid oes gan Wynedd ragolygon tŵf pum mlynedd. Y rhagolygon hyn sydd yn caniatâu i gynllunwyr Gwynedd eithrio rhai safleoedd rhag datblygiadau o'r newydd. Heb y CDLl, mae'r drws yn llydan agored i ddatblygwyr wneud ceisiadau speculative i adeiladu ar diroedd sydd wedi eithrio rhag datblygiad, ar hyn o bryd. Wrth reswm, bydd llawer o'r ceisiadau speculative hyn yn aflwyddianus - ond yn y pendraw bydd rhai yn llwyddo ar apêl, a ni fydd gennym unrhyw reolaeth dros pa rai. Byddai gwrthod y CDLl yn gallu arwain ar godi rhagor o dai, a hynny mewn rhai o'r broŷdd sydd leiaf abl i ymdrin a thŵf afreolus yn y stoc dai.

Ond yn fwy sylfaenol, heb y CDLl, ni fydd modd i Wynedd wneud y Gymraeg yn ystyriaeth faterol wrth ystyried ceisiadau cynllunio. Pam? Oherwydd bod y polisïau sy'n gwarchod yr iaith yn seiliedig ar gael CDLl gweithredol. Heb y CDLl, does dim PS1, sy'n datgan yn glir y dylid gwrthod ceisiadau sy'n debygol o niweidio'r iaith Gymraeg. Heb basio'r CDLl, ni fydd modd pasio Canllaw Cynllunio Atodol newydd i ymhelaethu a chryfhau ar PS1. Ond yn fwy sylfaenol, heb CDLl, nid yw TAN20 - canllaw cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gynllunio a'r Gymraeg - yn berthnasol. Mae TAN20 yn llwyr ddibynol ar gael cynllun datblygu gweithredol. Byddai gwrthod y CDLl yn golygu tanseilio pob polisi sy'n gwarchod y Gymraeg o fewn y drefn gynllunio.

Oes, mae lle i wella'r CDLl - ac mae cyfle i chi fel cynghorwyr wneud hynny, maes o law. Mae angen ysgrifennu'r Canllaw Cynllunio Atodol newydd, er mwyn rhoi danedd i'r CDLl. Ymhen blwyddyn, bydd angen adolygu'r CDLl, gan bwyso a mesur a yw y canfyddiadau a'r tybiadau gwreiddiol yn gywir - a'i addasu ar sail tystiolaeth newydd. Ond heb basio'r cynllun sydd ger eich bron ar hyn o bryd, fydd hyn ddim yn bosib. Er lles Gwynedd, er lles y Gymraeg, dwi'n erfyn arnoch chi i basio'r CDLl.

Dyfrig Jones

Dyfrig Jones
Mae gen i nifer o swyddi a swyddogaethau, ond does nelo 'run ohonyn nhw ddim byd a'r blog yma.