Mae lle i fôts, mae lle i fatsien


Alla i ddim ysgwyd y duwch sydd wedi dod trosta i ers dydd Iau diwethaf. Mae gen i fynydd o waith, a'r deadline yn dod yn nes bob dydd. Ond alla i ddim troi fy meddwl at unrhywbeth ond y gwacter o'm blaen. Cymerodd hi hanner canrif i adeiladu'r Undeb Ewropeaidd, ac mewn noson y mae Lloegr fawr, ymerodraethol, wedi ei glwyfo i'r byw. Fe allwn ni ddadlau dros rinweddau'r UE hyd Sul y Pys; nid am y sefydliad dwi'n bryderu, ond am y syniad. Ac am y syniadau a ddaw i gymeryd ei le.

Peidied neb a tanbwysleisio yr hyn a ddigwyddodd dros yr ychydig flynyddoedd ddiwethaf. Mae criw o ffasgwyr ceiniog-a-dima wedi meddianu ar ddisgwrs gwleidyddol Ynysoedd Prydain, ac maent wedi arwain y boblogaeth dros y dibyn. Cyngrheiriodd y Ceidwadwyr a nhw, yn rhannol oherwydd fod y ffasgaeth bitw yma yn rhan ohonyn nhw hefyd; yn rhannol oherwydd bod ymuno a gang y bwli yn haws na sefyll yn ei ffordd. Camodd y Blaid Lafur o'r neilltu, a gadael i UKIP orymdeithio drwy ei cartref. Dynion euog yw y cyfan o'r dosbarth llywodraethol Saesnig, o Cameron i Corbyn, o Johnson i Farage.

Diolch, felly, fod ar gyrion Prydain wleidyddion y gallwn ymfalchio ynddyn nhw. Pwy a feddyliai na Sturgeon a fyddai'n taflu cysgod dros etifeddiaeth Salmond, a nid y gwrthwyneb. Mae Yr Alban yn noddfa ac yn gysur i ni gyd, a hynny diolch i genedlaetholwyr sydd wedi treulio oes yn cael eu gwatwar am fod yn gul ac yn ynysig.

Ac mae gobaith yng Nghymru, diolch i fy mhlaid fy hun. Ond llygedyn gwelw, egwan ydi o, mae gen i ofn. Dros y dyddiau diwethaf, mae rhai o'r union bobl a fu'n ein gwatwar ni unwaith am feiddio eisiau bod yn genedl yn dechrau codi eu clustiau. Llafurwyr rhonc, wedi blynyddoedd o frwydro yn erbyn Plaid Cymru, yn dechrau datgan eu bod nhw rwan yn awchu am Gymru rydd. Heno, cyn-ymgeisydd i'r blaid Geidwadol, yn dweud ei bod yn deall yr achos am annibynniaeth am y tro cyntaf. Hynny oherwydd datganiad Leanne Wood ddoe, yn dweud yn glir bod annibynniaeth yn ddewis sydd yn rhaid ei roi ger bron y Cymry, am y tro cyntaf.

Drwy gydol fy oes i, mae cefnogaeth i Gymru annibynnol wedi aros yn gymharol gyson, o gwmpas y 10%. Ond roedd hynny mewn byd lle roedd Prydain yn bodoli, a'r Brydain honno yn rhan ganolog o gyfandir Ewrop. Ymhen dim, bydd Prydain wedi peidio a bod, gan adael dim ond England fawr, yn sefyll ar wahan i Ewrop. Nid dewis rhwng rhyw Stay and Leave damcaniaethol ydi hi rwan, ond rhwng bod ynghlwm wrth Loegr ynysig, neu geisio ffordd yn ôl i'r byd. Yr wythnos diwethaf dywedodd 48% o boblogaeth Cymru eu bod am aros yn rhan o'r byd. Heddiw, mae pob un o'r rheini yn bobl a ellir eu perswadio i gefnogi Cymru annibynnol. Rydym ni'n brin o fwyafrif, wrth gwrs. Ond rydym ni'n nes nac y buom ni erioed o'r blaen.

Ond os ydym ni am wireddu breuddwyd cenhedlaethau, mae'n rhaid i ni fod yn ddewr, ac yn ddi-gyfaddawd. Wedi pendantrwydd ddoe, mae gen i ofn bod datganiadau heddiw ar ran Plaid Cymru yn siom. Son am greu "Undeb Prydeinig", Prydain Ffederal o wledydd annibynnol. Atebion clyfar, parchus, wedi eu hyngan yn glir a chwrtais. Yr union bethau sydd wedi ein clymu a'n caethiwo am ganrifoedd. Yr union bethau a fu mor aflwyddianus wrth geisio darbwyllo Cymru i gefnogi'r prosiect Ewropeaidd yn y lle cyntaf. Nid drwy eiriau clyfar, cwrtais y mae UKIP wedi gorymdeithio i mewn i'n Senedd, ac nid dyma'r dull o'u disodli.

Prynhawn 'ma, yn fy anobaith, fe droiais i at Gerallt Lloyd Owen am gysur. Yng nghefn Cilmeri a cherddi eraill mae Cymru'r Wythdegau, wedi ei hysgrifennu yng nghysgod hir refferendwm trychinebus arall. Ewch i chwilio am eich copi, mae hi'n haeddu cael ei darllen yn ei chyfanrwydd, drosodd a throsodd. Ond os nad ydi hi wrth law, mae yn y rhan gyntaf neges na all unrhyw genedlaetholwr ei anwybyddu heddiw:

Ym mharhad fy Nghymru hen mae lle i'r doeth,
Mae lle i'r dewr; mae angen
Weithiau wg ac weithiau wên;
Mae lle i fôts, mae lle i fatsien

Yn gam neu'n gymwys, dwi am ddarllen hon fel matsien drosiadol; tân yn ein boliau sydd ein angen, nid mewn bwthyn gwag. Ac mae Gerallt yn iawn, wrth gwrs bod lle i fôts - dwi'n falch o'r gwaith dwi a fy nghyd-aelodau etholedig yn ei wneud. Ond rhaid i ni ym Mhlaid Cymru wynebu ffeithiau moel. Ers blynyddoedd, bellach, rydym ni wedi bod yn gwenu yn ddoeth, yn casglu'r pleidleisiau, yn llywodraethu yn effeithiol. Nid fel hyn, nid drwy fod yn "daeogion rhyw strategaeth ddiogel" y mae ennill cenedl. Drwy dân yn unig y mae gwneud hynny. Anghofiwn y Brydain nad yw bellach yn bod, anghofiwn am unrhyw briodas bellach gyda Lloegr ynysig, ddarfodedig. Cymru annibynnol yw ein unig nod: heddiw, yfory a hyd y bydd yn bodoli fel cenedl lawn, yn Ewrop â'r byd.

Dyfrig Jones
Mae gen i nifer o swyddi a swyddogaethau, ond does nelo 'run ohonyn nhw ddim byd a'r blog yma.