Rhai sylwadau ar hunanladdiad diwylliannol


Dydw i ddim yn aelod o Gyngor Gwynedd ers mis Mai eleni, ond cyn i mi gamu o'r neilltu roeddwn i wedi bod yn aelod am naw mlynedd. Am y rhan fwyaf o'r cyfnod hwnnw, fe fues i'n ymwneud a chynllunio mewn rhyw ffordd neu gilydd - yn aelod o Bwyllgor Ardal Arfon, y Pwyllgor Cynllunio Canolog a arferai fodoli, y Pwyllgor Cynllunio newydd, a'r Pwyllgor Polisi Cynllunio. Drwy hyn, dwi wedi dod i ddeall rhyw gymaint am y drefn gynllunio. Ac fel rhan o fy ngwasanaeth ar y Pwyllgor Polisi Cynllunio fe fum yn rhannol gyfrifol am ysgrifennu Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn, sydd ar fin mynd ger bron y ddau gyngor yn yr wythnosau nesaf.

Mae'r cynllun yn ddogfen faith a chymhleth, a 'does gen i ddim amser i ysgrifennu dehongliad manwl o'i gryfderau a'i wendidau. Ond, fel sawl un arall, dwi wedi gweld copi o'r llythyr sydd wedi ei yrru i aelodau'r ddau gyngor yn ddiweddar, a dwi am ymateb yn gryno(ish) i rai o'r pwyntiau sydd yn hwnnw, (sydd wedi ei ddyfynnu isod):

Annwyl Gynghorydd,

Ysgrifennwn atoch ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, ac i fynegi pryder difrifol ynghylch effaith y Cynllun ar iaith a chymunedau'r ardaloedd hynny. Barnwn fod y Cynllun ar ei ffurf bresennol yn amrwd a meiopig, ac y byddai ei fabwysiadu yn gyfystyr â hunanladdiad diwylliannol.

Beth bynnag fo gwendidau'r cynllun, nid yw'n ddogfen amrwd. Mae miloedd o oriau o waith wedi mynd i'w greu, ac mae wedi bod yn destun trafod, ymgynghori ac ail-wampio di-ddiwedd.

Mae nifer y tai y bwriedir eu codi gennych ei hun yn peri braw, ac mae’n amlwg nad gwir anghenion lleol ac nad cynnydd posibl yn y boblogaeth frodorol yw man cychwyn y ffigyrau hyn. Pryderwn yn ogystal fod canran y tai fforddiadwy a grybwyllir yn boenus o isel: arwydd pellach nad yw anghenion cymunedau presennol Gwynedd a Môn yn cael yr ystyriaeth ddyledus.

Mae awdur y llythyr yn berffaith gywir. Nid anghenion lleol a'r cynydd posibl yn y boblogaeth frodorol yw'r unig ystyriaethau. Mae'r cynllun yn cydnabod realiti bywyd yng Nghymru heddiw - sef bod pobl yn symud i fyw i Wynedd a Môn o du allan y ddwy sir, a bod angen darparu tai ar eu cyfer.

Wrth gwrs bod y mewnlifiad yn her i'r Gymru Gymraeg, ond mae'n bwysig nad ydym ni'n creu darlun simplistaidd, du-a-gwyn. Mae pobl yn mewnfudo i Wynedd a Môn o rannau eraill o Gymru, yn Gymry Cymraeg ac yn Gymry di-Gymraeg. Mae pobl eraill yn mudo i Wynedd a Môn o du allan i Gymru, ac yn dod i fod yn Gymry Cymraeg yn eu tro. Dwi ddim am ddechrau enwi pobl benodol, gan nad ydw i am bersonoli'r ddadl. Ond mae 'na filoedd o bobl yn byw yng Ngwynedd a Môn heddiw sydd wedi eu geni a'u magu tu allan i'r ddwy sir, a sydd yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i'n bywyd cymdeithasol, diwylliannol a ieithyddol. Pa le sydd iddyn nhw mewn Cynllun Datblygu Lleol sydd wedi ei seilio ar "wir anghenion lleol...a cynnydd posibl yn y boblogaeth frodorol" yn unig?

Mwy brawychus byth yw'r ffaith na chomisiynwyd gan Gyngor Gwynedd asesiad iaith annibynnol i ymchwilio i effaith y Cynllun Datblygu Lleol ar hyfywedd yr iaith Gymraeg yn yr ardaloedd hyn. Dylai pob cyngor ofalu am les y bobl a gynrychiola. Dyma rai o gadarnleoedd olaf yr iaith. Rydym ninnau fel llenorion, yn drigolion Gwynedd a Môn, yn byw'n bywydau trwy'r Gymraeg, yn creu ynddi ac yn ennill ein bywoliaeth trwyddi - fel y gwna miloedd o'n cyd-drigolion. Mae'n adnodd diwylliannol ac economaidd amhrisiadwy. Ni fyddai neb yn gwadu bod oblygiadau ieithyddol pellgyrhaeddol i gynllun mor enfawr â hwn. Mae'r ffaith na chynhwysir asesiad iaith arbenigol ac annibynnol gennych yn ddiffyg sylfaenol ac yn achos gwir bryder.

Yr argraff sy'n cael ei roi yn y paragraff yma yw bod Gwynedd a Môn wedi bwrw iddi i greu Cynllun heb hidio dim am yr iaith Gymraeg. Ond y gwir amdani yw bod y ddau gyngor wedi mynd ati i gynnal asesiad arbenigol ar oblygiadau ieithyddol y cynllun. Gallwch ei ddarllen, os y mynnoch, drwy ddilyn y ddolen hon. Mae'n ddogfen faith, fanwl, sydd yn edrych ar ardal y cynllun cyfan, cyn cynnig dadansoddiad fesul safle datblygu.

Cyhoeddwyd yr asesiad gwreiddiol nol yn Chwefror 2015, ac mae wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ers hynny. Mae nifer o'r rhai sydd yn ymgyrchu yn erbyn y cynllun wedi cynnig gwelliannau a beirniadaethau o'r asesiad, ac mae'r sylwadau hynny wedi eu hystyried wrth addasu'r cynllun.

Hyd nes y cyflawnir asesiad o'r fath, a hyd nes y creffir mewn ffordd fwy ystyrlon ar wir oblygiadau diwylliannol a chymunedol y datblygiadau dan sylw, pwyswn arnoch i beidio â mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae gormod yn y fantol.

Dwi'n gorfod brathu fy nhafod weithiau, wrth ddarllen sylwadau fel hyn. Yr ensyniad yw nad ydym ni gynghorwyr a swyddogion wedi craffu yn ystyrlon ar y cynllun. Diolch byth bod y dosbarth canol diwylliannol Cymraeg wedi ymddeffro ar yr unfed awr ar ddeg i'n hachub ni i gyd!

Fe ŵyr pob cynghorydd beth yn union sydd yn y fantol. Ein cynghorwyr sydd yn gorfod gweithredu y cynllun datblygu; sy'n gorfod ymdrin a pholisi cynllunio ar lawr gwlad. Nhw sydd yn gorfod gwrthod caniatâd cynllunio i drigolion Gwynedd a Môn am ei fod yn groes i bolisi cynllunio. Nhw sydd yn dyst i'r artaith y mae teuluoedd lleol yn ei fyw wrth aros am dŷ cymdeithasol, neu wrth wylio ei rhent preifat yn cynyddu yn flynyddol. Nhw sydd yn gweld teuluoedd ifanc yn methu a phrynu cartrefi yn y pentrefi lle magwyd nhw.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ddogfen amherffaith; ond mae'n perthyn i'r byd go iawn, sydd yr un mor amherffaith. Mae'n gynllun sydd yn llawn ymwybodol o'r her i'r Gymraeg o du'r mewnlifiad; ond mae hefyd yn ymwybodol o beth yw effaith diffyg tai newydd ar ein cymunedau. Camgymeriad o'r mwyaf fyddai gwrthod pasio'r cynllun datblygu. Gobeithio y bydd aelodau'r ddau gyngor yn ddigon doeth i'w gymeradwyo pan ddaw o ger ei bron yn yr wythnosau nesaf.

Dyfrig Jones
Mae gen i nifer o swyddi a swyddogaethau, ond does nelo 'run ohonyn nhw ddim byd a'r blog yma.