Teyrngarwch i'r Blaid


Os ydych chi'n dilyn Leighton Andrews ar Twitter (naill a'i yn Gymraeg neu yn Saesneg) fe wyddoch ei fod wrth ei fodd yn tynnu sylw at "drafferthion" diweddaraf Plaid Cymru. Yr hyn sydd ganddo dan sylw yw'r ffaith fod aelodau Plaid Cymru yn anghytuno a'u gilydd ar gwestiynnau gwleidyddol. Ia, wir yr, dyna yw syniad Leighton o "drafferthion"; plaid lle mae un aelod etholedig yn dal barn wahanol i aelod etholedig arall.

Heddiw, fe drydarodd linc i fideo ohono fo ei hun yn siambr y Cynulliad yn tynnu sylw at y rhaniadau honedig hyn yn ein plaid. Mae'n gweld ei hun yn eithriadol o glyfar yn tynnu sylw at y ffaith nad yw gwahanol Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, na gwahanol arweinyddion Cynghorau Sir Plaid Cymru, yn cytuno a'u gilydd ar sut i ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru.

Fe alla i weld pam fod hyn yn broblem i wleidydd Llafur. Yn hanesyddol, mae Llafur wedi bod yn blaid sydd yn rhoi pwyslais anferthol ar undod pleidiol. Gallwch olrhain hyn yn ol i'r cyfnod ar ol y rhyfel, fel y gwnaeth Eric Shaw yn ei gyfrol Discipline and Discord in the Labour Party. Mae Shaw yn dyfynu'r newyddiadurwr Llafuraidd o Sir Gar, Alan Watkins, yn disgrifio agwedd Llafur yn y 50au a'r 60au drwy ddweud "A hint of heresy, a whif of recalcitrance and.....tanks would emerge at dead of night from the concrete garages beneath Transport House and move unstoppably towards the offending part of the country". Bu peth llacio ar ddisgyblaeth y Llafur ar ddiwedd y 60au, yn ol Shaw, ond eithriad oedd y cyfnod yma. O Attlee i Miliband, tueddiad y Blaid Lafur yw i bwysleisio undod a disgyblaeth dros bopeth arall.

Ond nid dyma y tueddiad oddi fewn i bob plaid, ac fe fyddwn i'n dadlau yn chwyrn fod rhoi cymaint o bwyslais ar ddisgyblaeth ac undod wedi gwneud mwy o niwed i Lafur na dim arall. Yr agwedd yma o'u diwylliant gwleidyddol sydd wedi arwain at sefyllfa bresenol y blaid, sydd yn cael ei hadlewyrchu yn y ras i ddewis eu harweinydd nesaf. Mae pedwar aelod seneddol yn y ras, ond prin fod unrhyw wahaniaeth syniadaethol rhwng tri o'r rheini - Liz Kendall, Yvette Cooper ac Andy Burnham. Jeremy Corbyn yw'r unig un sydd yn fodlon datgan ei fod yn anghytuno yn sylfaenol gyda gweledigaeth y Ceidwadwyr, sydd yn fodlon herio polisiau llymder y llywodraeth bresenol a blaenorol, sydd yn fodlon sefyll dros gyfiawnder cymdeithasol yn hytrach na pharhau i erlid y gwanaf a'r tlotaf yn ein cymdeithas. Ac er fod Corbyn yn gwneud yn llawer iawn gwell na'r disgwyl, mae'n anorfod y bydd peirianwaith y Blaid Lafur yn ganolog yn uno yn ei erbyn, ac mai un o'r tri arall a gaiff ei choroni (neu ei goroni) yn arweinydd.

Mae gen i fy syniadau fy hun ynglyn a sut y dylid ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru, ac mae nhw'n wahanol i'r hyn sydd wedi cael ei awgrymu gan Dafydd Elis-Thomas, cabinet cysgodol Plaid Cymru, a hyd yn oed Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd. Ond yn wahanol i Leighton Andrews, dwi'n credu bod hyn yn rhywbeth sydd yn hanfodol mewn trefn ddemocrataidd. Nid drwy anghytundeb rhwng y pleidiau yn unig mae adnabod democratiaeth iach, ond drwy anghytundeb o fewn pleidiau hefyd. Dylai democratiaeth fod yn broses lle mae ystod eang o safbwyntiau yn cael eu gwyntyllu, nid mewn ystafelloedd caedig yn unig, ond mewn fforymau agored, cyhoeddus. Dwi'n falch fy mod yn aelod o blaid sydd yn gallu cytuno ar egwyddorion sylfaenol, tra hefyd yn anghytuno ar sut i wireddu'r egwyddorion hynny mewn polisi. Os byth y tro Plaid Cymru i fod yn blaid uniongred, unffurf, di-ddychymyg fel y Blaid Lafur, yna fe fydd hi'n bryd i mi chwilio am gartref gwleidyddol newydd.

Dyfrig Jones
Mae gen i nifer o swyddi a swyddogaethau, ond does nelo 'run ohonyn nhw ddim byd a'r blog yma.